Neath Port Talbot logo

Gweithio yn CNPT

Gyda’n gilydd, Tîm CNPT ydym ni

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydym yn gweithio fel un er mwyn darparu gwasanaethau sy’n rhoi gwerth gwych am arian i’n holl drigolion a busnesau. Gan weithio mewn partneriaeth â’n cymunedau, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, nawr ac yn y dyfodol, ledled Castell-nedd Port Talbot – a’n pobl ni ein hunain a fydd yn gwireddu hyn. Dyna pam rydym wedi pennu ein gweledigaeth ‘Un Tîm, Un Cyngor’ ar gyfer rheoli a thyfu ein pobl.

Yma cewch ragor o wybodaeth am ein gweledigaeth ar gyfer CNPT, yr hyn rydym yn ei gynnig i’n cymuned o gyflogeion, a’n hymrwymiad i barhau i gefnogi eu datblygiad proffesiynol ac, yn anad dim, eu llesiant.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Byw eich bywyd gorau

Rydym yn credu mewn gwobrwyo a chydnabod ymdrechion a chyflawniadau ein cydweithwyr. Rydym hefyd yn credu mewn cael bywyd yn y gwaith a bywyd y tu allan i’r gwaith. Rydym am i bawb fod yn iach ac yn hapus a chael y cymorth a’r adnoddau ariannol y mae arnynt eu hangen.

Os byddwch yn dewis gweithio i ni, cewch eich gwobrwyo ag amrywiaeth o fuddion deniadol a chymorth er mwyn eich helpu i fyw eich bywyd gorau.

Gwobrwyon a buddion

  • Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith
    Mae gan y cyngor nifer o bolisïau sy’n gwella cyfleoedd i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys Fframwaith Gweithio Hybrid.
  • Cymorth i Adleoli
    Nod Cynllun Adleoli Castell-nedd Port Talbot yw helpu cyflogeion newydd i dalu’r costau y gallant fynd iddynt wrth symud i fyw er mwyn cymryd eu swydd newydd. Mae’r cynllun yn cynnig cyfraniad at gostau adleoli hyd at £8,000.
  • Rhaglen Cymorth i Gyflogeion
    Mae’r llwyfan llesiant hollgynhwysol hwn, a gaiff ei gynnal gan Vivup, yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau/gwasanaethau er mwyn hybu llesiant meddyliol, corfforol ac ariannol. Ymhlith y rhain mae Llinell Gymorth Gyfrinachol 24/7 a Hyb Llesiant Ar-lein lle y gallwch gael gafael ar adnoddau a chwblhau asesiadau ffordd o fyw.
  • Cynllun Budd-dal Car
    Caiff y budd-dal aberthu cyflog hwn ei weithredu gan Tusker, ac mae’n cynnig pecyn moduro cwbl gynhwysol sy’n galluogi cyflogeion i yrru car newydd sbon, wedi’i gadw a’i gynnal a’i yswirio’n llawn am hyd at bedair blynedd.
  • Pensiwn – Byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sef cynllun pensiwn galwedigaethol diffiniedig sydd wedi’i gymeradwyo o ran treth. Bydd eich cyfraniadau’n seiliedig ar eich enillion a gallwch ddewis o blith gwahanol opsiynau incwm pan fyddwch yn ymddeol.
  • Aswiriant Bywyd – Fel aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, bydd cyfandaliad grant marwolaeth gwerth tair gwaith yn fwy na’ch cyflog pensiynadwy blynyddol tybiedig yn daladwy ni waeth pa mor hir y byddwch wedi bod yn aelod, os byddwch yn marw mewn gwasanaeth.
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith – Byddwch yn cael cyfle i arbed hyd at 40% ar feiciau ac offer beicio gan ein darparwr Beicio i’r Gwaith, gan eich galluogi i gadw’n iach ac yn heini ar eich taith i’r gwaith.
  • Aelodaeth â Champfa – Cewch gyfraddau gostyngol ar gyfer aelodaeth â chyfleusterau Hamdden Celtic ledled Castell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn cynnwys pob campfa, pwll nofio a dosbarth ffitrwydd.
  • Lwfans Car – Mae lwfans defnyddiwr achlysurol ar gael i bob aelod o staff sy’n defnyddio ei gar ei hun ar gyfer busnes y cyngor.
  • Cynigion Disgowntiau Staff – Mae digonedd o ddisgowntiau a chynigion ar gael ledled Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys teithio, bwyta allan, siopa, moduro a gwasanaethau ariannol.

Darllen mwy >>>

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Pobl yn Gyntaf

O’r cychwyn cyntaf, byddwch yn teimlo fel eich bod yn cael eich derbyn a’ch gwerthfawrogi yn Nhîm CNPT. Ni waeth pwy ydych chi, o ble rydych chi’n dod neu beth rydych chi’n credu ynddo, rydym am i chi fod yn chi eich hun go iawn yn y gwaith.

Mae angen i ni sicrhau bod ein gweithlu’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaeth, felly rydym yn cymryd cydraddoldeb a chynhwysiant o ddifrif er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau ar gyfer ein trigolion.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, beth bynnag fo’u cefndir, eu hunaniaeth neu eu profiadau bywyd, ac mae gennym ymrwymiad gwirioneddol i gyfle cyfartal i bawb.

Ymunwch â ni er mwyn gweithio mewn awyrgylch sy’n eich annog i fod yn chi eich hun, mynegi eich barn a dylanwadu ar benderfyniadau drwy gyfrannu eich safbwyntiau unigryw yn y gwaith.

EWCH I’N GWEFAN ER MWYN DYSGU MWY >>>

Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot

Croesawgar, gonest a dramatig o Gymreig

Mae Castell-nedd Port Talbot wir yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Mae ein sir wedi’i lleoli rhwng godrefryniau Bannau Brycheiniog a thywod euraidd Traeth Aberafan, ac mae’n cynnig cysylltiadau cyflym â Chaerdydd ac Abertawe ynghyd â dos iach o fywyd lled wledig gyda thai fforddiadwy ac ysgolion o safon uchel.

O’r mynyddoedd a’r cymoedd, yr afonydd a’r arfordir, i’r tirweddau gwledig a diwydiannol sy’n llawn treftadaeth falch, mae Castell-nedd Port Talbot yn ardal amrywiol dros ben lle y daw harddwch a gwytnwch ynghyd i ffurfio tirwedd annisgwyl ac ysbryd cymunedol heb ei ail yn nhrefi a phentrefi ein sir.

Mae’r bobl sy’n byw yma yn gymaint o ran o’r ardal â’n tirweddau. Mae ein cymeriad digyffelyb i’w weld ym mhobman – cyfeillgar a di-flewyn-ar-dafod. Os byddwch yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, cewch gyfle i ddod yn rhan o gymuned glòs sy’n cynnig ymdeimlad go iawn o berthyn. Ac mae hynny’n amhrisiadwy.