Neath Port Talbot logo

Dod yn Brif Weithredwr newydd i ni

Croeso

Mae Castell-nedd Port Talbot yn gartref i fwy na 140,000 o drigolion, ac yn gwasanaethu ardal sy’n llawn treftadaeth, diwylliant, diwydiant a thechnoleg. Rydym yn lle y mae pobl wir yn falch o fyw, dysgu, gweithio a magu eu teuluoedd ynddo. 

Fel awdurdod, rydym yn uchelgeisiol ac yn llawn cymhelliant, ac mae gennym weledigaeth glir i ddenu buddsoddiad sylweddol i’n cymunedau ffyniannus. Mae llawer o brosiectau ar y gweill yma sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Cyrchfan Wildfox, GCRE a’r Porthladd Rhydd Celtaidd, a fydd yn arwain at y cyfleoedd ehangaf posibl i Gymru drwy gyflymu arloesedd a datblygu sgiliau modern ar garlam ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd a chynlluniau datgarboneiddio cenedlaethol.

Rydym yn gartref i dirweddau godidog, o’r cymoedd i’n traethau, gan gynnig ansawdd bywyd ardderchog i’r cymunedau amrywiol sy’n byw yma. Ond gwyddom fod gennym fwy o botensial i’w ddatgloi. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran trawsnewid ein gwasanaethau, sydd wedi’i grisialu yn ein Cynllun Corfforaethol sy’n addo ADFER, AILOSOD ac ADNEWYDDU.

Bydd ein Prif Weithredwr newydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni ein huchelgeisiau, drwy ei gydberthynas â’n staff, uwch-swyddogion, arweinwyr gwleidyddol, partneriaid allanol, a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Isod mae fideo gan ein Prif Weithredwr presennol, Karen Jones. Dyma gyfle i chi glywed yn uniongyrchol gan Karen am y cyfle cyffrous hwn.