Ynglŷn â CNPT
Llywio ein sir
Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gartref i fwy na 140,000 o bobl ac, fel eu cyngor, rydym yn gweithio’n galed i ddarparu cannoedd o wasanaethau bob dydd.
Rydym yn frwdfrydig dros wneud bywyd yn well i’n trigolion ac rydym am greu lle y mae pobl yn awyddus i fyw, gweithio a magu eu teuluoedd ynddo – rhywle lle y caiff pawb gyfle cyfartal i lwyddo mewn bywyd.
P’un a yw’n cefnogi rhieni, yn addysgu ein plant a’n pobl ifanc, yn sicrhau tai addas a fforddiadwy a chyflogaeth dda, neu’n helpu pobl sy’n wynebu caledi neu y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn ddiweddarach mewn bywyd; mae gwaith y cyngor yn cyffwrdd â’r rhan fwyaf o agweddau ar fywydau pobl.
Yn ogystal â rhedeg y gwasanaethau y bydd eu hangen ar bobl o ddydd i ddydd, mae gan y cyngor hefyd ran bwysig i’w chwarae o ran denu buddsoddiad er mwyn sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot yn lle gwych i fyw, gweithio a threulio amser hamdden ynddo. Mae’r rôl arweinyddiaeth gymunedol hon yn golygu ein bod yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau eraill ar bob lefel er mwyn amddiffyn pobl leol a darparu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Pwrpas, Gweledigaeth a Gwerthoedd
Mae pwrpas, gweledigaeth, gwerthoedd, cydberthnasau a blaenoriaethau’r cyngor wedi cael eu hailosod a’u hadnewyddu gan ystyried:
- yr hyn sy’n bwysig i bobl a busnesau lleol a’n cyflogeion
- yr effaith y gwyddom fod COVID-19 wedi’i chael ar ein cymunedau, ein heconomi leol a rhanddeiliaid ehangach
- y gwersi rydym wedi’u dysgu o’n hymateb i’r pandemig ac o ymateb cyrff eraill
- newidiadau eraill a ragwelir yn ein hamgylchedd allanol
Ein Gweledigaeth
Rydym am sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, bod ein holl gymunedau’n ffynnu ac yn gynaliadwy, y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd, ein diwylliant a’n treftadaeth leol, a bod pobl leol yn fedrus ac yn gallu cael swyddi gwyrdd o safon uchel.
Ein Pwrpas
Rydym am helpu trigolion Castell-nedd Port Talbot i fyw bywydau da.
Ein Gwerthoedd
Cysylltiedig – mae beth sy’n bwysig i chi yn bwysig i ni.
Gofalgar – rydyn ni’n gofalu amdanoch chi, eich bywyd a dyfodol ein bwrdeistref sirol.
Cydweithredol – rydyn ni’n gweithio gyda’n dinasyddion a’n partneriaid oherwydd bod modd i ni gyflawni mwy gyda’n gilydd.
Hyderus – rydyn ni’n optimistaidd ac yn hyderus ynghylch y dyfodol.
DARLLENWCH EIN RHAGLEN NEWID STRATEGOL AR GYFER 2023-2027 YN LLAWN (PDF) >>>
Cyfansoddiad Gwleidyddol
Ceir 60 o gynghorwyr sy’n cynrychioli 34 o wardiau.
- Llafur Cymru: 27
- Annibynnol: 19
- Grŵp Plaid Cymru: 11
- Grŵp Rhyddfrydol a Gwyrdd Coedffranc: 3
Cyngor dan arweiniad clymblaid yw Castell-nedd Port Talbot. Y Cynghorydd Steve Hunt yw Arweinydd y cyngor, a’r Cynghorydd Alun Llewelyn yw’r Dirprwy Arweinydd.