Neath Port Talbot logo

Ymgeisio Nawr- Cymraeg

Dod yn Brif Weithredwr newydd i ni

Dyma Gastell-nedd Port Talbot  lle o wrthgyferbyniad, creadigrwydd a chymuned.

Mae ein rhan hardd o Dde Cymru wedi’i lleoli rhwng dinasoedd Abertawe a Chaerdydd, yn agos at Benrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog.

Rydym yn gwasanaethu 140,000 o drigolion mewn ardal ffyniannus sy’n llawn treftadaeth, diwylliant, diwydiant a thechnoleg. Rydym yn lle o wrthgyferbyniad – gyda phoblogaeth drefol a gwledig amrywiol, yn falch o’n hanes ond hefyd â’n golygon yn gadarn ar y dyfodol. Mae Castell-nedd Port Talbot yn lle y mae pobl wir yn falch o fyw, dysgu, gweithio a magu eu teuluoedd ynddo.

Mae hwn yn gyfle a fydd yn diffinio gyrfa; rôl a fydd yn cael effaith a dylanwad sylweddol. Rydym yn gyngor sefydlog sy’n perfformio’n dda o ran darparu gwasanaethau a llywodraethu corfforaethol iach. Ond mae gennym hefyd weledigaeth glir, ac rydym yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol ein hardal, gan ymdrin â diddordeb sylweddol mewn buddsoddi. Bydd gennych gyfle i adeiladu ar brosiectau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, megis Cyrchfan Wildfox, GCRE a’r Porthladd Rhydd Celtaidd; gan ddyrchafu ein lle, bod yn gennad i ni, a chynrychioli Castell-nedd Port Talbot ledled Cymru a’r DU gyfan, ac yn rhyngwladol.

Mae cydberthnasau â Swyddogion ac Aelodau Etholedig yn hollbwysig yma; mae hwn yn gyngor sy’n gwasanaethu ei drigolion â brwdfrydedd y bydd yn anodd dod o hyd iddo yn unrhyw le arall. Rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol a fydd yn gallu cynnig y craffter, yr uchelgais, y sgiliau llywodraethu a’r creadigrwydd i yrru ein sefydliad yn ei flaen. Ein pobl yw ein hased mwyaf, ac ni fydd ein Prif Weithredwr yn eithriad yn hyn o beth. Byddwn yn disgwyl i chi ffurfio cydberthnasau cadarn a llawn ymddiriedaeth â phartneriaid, Gweinidogion, arweinwyr cymunedol a thrigolion, gan sefydlu cyfeiriad clir a hyder proffesiynol ymhlith ein gweithlu rhagorol.

Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i ymuno â ni ac arddangos eich dawn, eich tosturi a’ch penderfynoldeb i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gymunedau Castell-nedd Port Talbot. Os ydych chi’n gweld eich hun fel ein Prif Weithredwr nesaf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

I weld y disgrifiad o’r swydd a manyleb y person, sgroliwch i waelod y dudalen, ticiwch i gytuno i’r polisi preifatrwydd, wedyn cliciwch ‘Continue to full details’.

Sut i Wneud Cais

  • Cyflwynwch eich CV ynghyd â Datganiad Ategol sy’n cyfeirio at y meini prawf ym manyleb y person, gan ddangos tystiolaeth o’r ffyrdd rydych yn bodloni’r meini prawf.
  • Esboniwch unrhyw fylchau mewn cyflogaeth neu addysg.
  • Byddwch yn barod i roi enwau, swyddi, sefydliadau a manylion cyswllt ar gyfer dau ganolwr; dylech sicrhau mai eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar yw un ohonynt. Byddwn yn cysylltu â chanolwyr yr ymgeiswyr a fydd yn symud ymlaen i’r camau terfynol. Byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn cysylltu â chanolwyr.
  • Rhowch wybod i ni am unrhyw anhawster a all fod gennych o ran yr amserlen ddangosol.
  • Sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gywir cyn i chi gyflwyno eich cais.

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, caiff cadarnhad wedi’i awtomeiddio ei anfon atoch drwy e-bost. Os na fyddwch wedi cael cadarnhad, e-bostiwch contactus@gatenbysanderson.com

Pwyntiau cyswllt

Yr ymgynghorwyr canlynol sy’n rheoli’r rôl hon a byddant yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau na chânt eu hateb ym manyleb y person ar y dudalen we nesaf.

Pwynt cyswllt:
Gary Evans

Rhif ffôn:
07809 195 593

Pwynt cyswllt:
Rebecca Hopkin

Rhif ffôn:
07827 098 173

Pwynt cyswllt:
Rachel Salvia

Rhif ffôn:
07393 013 067

This role is currently marked as Inactive.